O mor ddymunol yw cael cwrdd âm hoff Anwylyd wrth ei fwrdd, ymlonni yn el gariad llawn a thawel orffwys ar yr Iawn. Mae’r fath hawddgarwch yn ei bryd, gwledd felys yw, na ẃyr y byd: fy nefoedd yw bod ger ei fron yn siriol wedd ei ẃyneb llon. Ymrwymiad adnewyddol yw i rodio a bodloni Duw, a phrawf o gariad Brenin nef, ei ddoniau a’i ffyddlondeb ef. Y cof o'i angau ef a'i ras farweiddia’n Ilwyr fy mhechod cas; myfyrio loes Iachawdwr byd a wywa’r llygredd oll i gyd. ERYRON GWYLLT WALIA, 1803-70